- A PhD in a related subject area.
- Knowledge of current migration policy issues in Wales.
- A strong record of research and/or knowledge exchange and experience conducting research, including evidence of design, implementation, and dissemination, in a policy environment/field.
- Experience of qualitative data analysis, including how to contextualise the findings of the research within relevant academic and policy debates
- A proven ability of engaging, developing and maintaining excellent realtionships with vulnerable groups (women, asylum-seekers, refugees), community organisations, advocacy groups. civil servants, researchers and public policy.
- Ability to communicate effectively and persuasively – in writing and in person – with a diverse range of expert and non-expert internal and external stakeholders, including working collaboratively with practitioners and/or policy makers.
For more information, please follow this link to the Job Description:Job Description
To apply for this role please submit the following as one document;
- CV
- A personal statement of up to 1000 words you should set out in your statement why you’re interested in this role and provide examples of where your skills and experience meet the required competencies for this role as detailed in the job and person specification.
The Open University is committed to equality, diversity and inclusion which is reflected in our mission to be open to people, places, methods and ideas. We aim to foster a diverse and inclusive environment so that all in our OU community can reach their potential. We recognise that different people bring different perspectives, ideas, knowledge, and culture, and that this difference brings great strength. We strive to recruit, retain and develop the careers of a diverse pool of students and staff, and particularly encourage applications from all underrepresented groups. We also aspire to make The Open University a supportive workplace for all through our policies, services and staff networks.
Gwybodaeth am y Swydd
Mae'r fenter Grymuso Menywod sy'n Ffoaduriaid yng Nghymru yn cael ei harwain gan Athina Summerbell yn swyddfa Cyngor Ffoaduriaid Cymru yng Nghaerdydd, ac mae'r ymchwil yn cael ei harwain gan y Brifysgol Agored. Bydd yr ymchwilydd yn gweithio'n agos gyda Chyngor Ffoaduriaid Cymru i recriwtio cyfranogwyr ar gyfer yr ymchwil, a bydd yn cynnal grwpiau ffocws wyneb yn wyneb yng Nghaerdydd, Abertawe a Chasnewydd, yn ogystal â grwpiau ffocws ar-lein. Bydd hefyd yn cyd-ddylunio arolwg ar gyfer cyflogwyr a gweithwyr proffesiynol Addysg Bellach ac Addysg Uwch. Bydd yn nodi problemau ac atebion ac yn cyflwyno adroddiad ymchwil sy'n seiliedig ar dystiolaeth yn annibynnol, mewn cydweithrediad ag academyddion a phartneriaid y Brifysgol Agored. Bydd angen sgiliau rhyngbersonol, rheoli rhanddeiliaid a chyfathrebu cryf ar ddeiliad y swydd, yn ogystal â phrofiad a sgiliau ymchwil.
Bydd deiliad y swydd yn atebol i Marie Gillespie (Athro Cymdeithaseg) a bydd yn cyd-ddylunio ac yn cyflwyno'r ymchwil gyda hi. Bydd deiliad y swydd yn cael ei gefnogi gan Helen Thomas (Rheolwr Partneriaethau yn y Brifysgol Agored yng Nghymru), a bydd dan gontract yn swyddfa'r Brifysgol Agored yng Nghaerdydd. Gall weithio o bell am y rhan fwyaf o'r amser, ond bydd angen dod i'r swyddfa yng Nghaerdydd ar adegau. Ar hyn y bryd, byddwn yn disgwyl i ddeiliad y swydd ddod i’r swyddfa tua unwaith y mis. Hefyd, bydd angen i’r unigolyn deithio rhywfaint er mwyn cynnal y grŵp ffocws a’r ymchwil adolygu, ac i fynychu cyfarfodydd. Mae hyn yn golygu teithio i rannu arall o Gymru. Bydd y costau teithio yn cael eu had-dalu, ond nid ar gyfer teithiau i'r swyddfa yng Nghaerdydd.
Gweithio’n hyblyg
Rydyn ni hefyd yn agored i drafodaethau am weithio hyblyg. Cysylltwch i drafod beth sy'n gweithio i chi.
Nodi, rheoli a chyflawni ymchwil
- Dylunio, darparu a dosbarthu ymchwil sy'n ymateb i anghenion menywod sy'n ffoaduriaid, rhanddeiliaid yn y sectorau cyflogaeth ac addysg, a llunwyr polisïau.
- Rheoli'r prosiectau cyfnewid gwybodaeth ac ymchwil mewn ffordd sensitif a diogel
Gweithio ar y cyd ac mewn partneriaeth
- Defnyddio menter a chreadigrwydd i gyflawni'r ymchwil a rhannu gwybodaeth a syniadau gyda phartneriaid.
- Rheoli a sicrhau bod yr holl ymchwil yn cael ei gynnal yn unol â pholisi ac arferion moesegol y Brifysgol Agored
Adeiladu
- Cefnogi'r gwaith o godi ymwybyddiaeth o ymchwil Cyngor Ffoaduriaid Cymru a'r Brifysgol Agored ymysg llunwyr polisïau, academyddion, sefydliadau polisi a rhwydweithiau ymchwil.
- Cyfrannu at weithgareddau sy'n gwella effaith ymchwil, ac ymgysylltu â nhw, fel ymgysylltu â sefydliadau polisi a chyfryngau lleol a chenedlaethol.
- Sgiliau a Phrofiad
Gofynion Hanfodol
- PhD mewn maes pwnc cysylltiedig.
- Gwybodaeth am faterion polisi mudo cyfredol yng Nghymru.
- Hanes cryf o gyfnewid ymchwil a/neu wybodaeth, a phrofiad o gynnal ymchwil; gan gynnwys tystiolaeth o ddylunio, gweithredu a lledaenu, mewn amgylchedd/maes polisi.
- Profiad o ddadansoddi data ansoddol, gan gynnwys sut i roi canfyddiadau'r ymchwil mewn cyd-destun o fewn dadleuon academaidd a pholisïau perthnasol
Gallu amlwg i ymgysylltu, datblygu a chynnal perthynas ardderchog gyda grwpiau agored i niwed (menywod, ceiswyr lloches, ffoaduriaid), mudiadau cymunedol, grwpiau eiriolaeth, gweithwyr sifil, ymchwilwyr a pholisïau cyhoeddus.
I gael rhagor o wybodaeth, dilynwch y ddolen hon i'r Disgrifiad Swydd:Disgrifiad Swydd
I wneud cais am y swydd hon, cyflwynwch y canlynol fel un ddogfen;
- CV
- Datganiad personol hyd at 1000 o eiriau. Yn eich datganiad, dylech nodi pam mae gennych chi ddiddordeb yn y swydd hon a rhoi enghreifftiau o ble mae eich sgiliau a'ch profiad yn bodloni'r cymwyseddau gofynnol fel y nodir ym manyleb y swydd a manyleb y person.
Cydymaith Ymchwil Ôl-ddoethurol - Grymuso Menywod sy'n Ffoaduriaid Manylion Swydd | OU
Mae'r Brifysgol Agored wedi ymrwymo i gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant a adlewyrchir yn ein cenhadaeth i fod yn agored i bobl, lleoedd, dulliau a syniadau. Ein nod yw meithrin amgylchedd amrywiol a chynhwysol fel y gall pawb yng nghymuned y Brifysgol Agored gyrraedd eu potensial. Rydym yn cydnabod bod gwahanol bobl yn cynnig gwahanol safbwyntiau, syniadau, gwybodaeth, a diwylliant, a bod y gwahaniaeth hwn yn cynnig cryfder mawr. Rydym yn ymdrechu i recriwtio, cadw a datblygu gyrfaoedd cronfa amrywiol o fyfyrwyr a staff, ac yn arbennig yn annog ceisiadau gan bob grŵp heb gynrychiolaeth ddigonol. Rydym hefyd yn anelu at wneud y Brifysgol Agored yn weithle cefnogol i bawb trwy ein polisïau, gwasanaethau a rhwydweithiau staff.